Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 65(7) o Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007, i’w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL Cymru DRAFFT
2017 Rhif (Cy. * )
YSTADEGAU SWYDDOGOL, CYMRU
Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu bod yr ystadegau a gynhyrchir, neu sydd i gael eu cynhyrchu, gan y personau a restrir yn yr Atodlen yn ystadegau swyddogol at ddiben Rhan 1 o Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007 (“y Ddeddf”). Mae Rhan 1 yn sefydlu’r Bwrdd Ystadegau sy’n gyfrifol am hyrwyddo a diogelu arferion da o ran casglu ac asesu ystadegau swyddogol. Diffinnir “official statistics” yn adran 6(1) o’r Ddeddf ac mae’n cynnwys, yn is-adran (1)(b)(iii), ystadegau a bennir drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.
Mae adran 6(2) o’r Ddeddf yn darparu y caiff gorchymyn a wneir o dan is-adran (1)(b) bennu disgrifiad o’r ystadegau a gynhyrchir neu’r person sy’n eu cynhyrchu.
Nid yw ystadegau swyddogol a gynhyrchir gan bersonau a restrir yn yr Atodlen yn cynnwys ystadegau a gynhyrchir gan y Bwrdd Ystadegau, adrannau’r llywodraeth, gweinyddiaethau datganoledig neu unrhyw berson arall sy’n gweithredu ar ran y Goron.
Ni luniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y Gorchymyn hwn.
Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 65(7) o Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007, i’w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL Cymru DRAFFT
2017 Rhif (Cy. )
YSTADEGAU SWYDDOGOL, CYMRU
Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017
Gwnaed 2017
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 6(1)(b) a (2) o Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007([1]).
Yn unol ag adran 6(3) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Bwrdd Ystadegau.
Yn unol ag adran 65(7) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1.—(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ystadegau
Swyddogol (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 9 Tachwedd 2017.
Dirymu
2. Mae Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2013([2]) wedi ei ddirymu.
Ystadegau swyddogol
3.—(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r ystadegau
a gynhyrchir, neu sydd i gael eu cynhyrchu, gan y personau a
restrir yn yr Atodlen yn ystadegau swyddogol at ddiben Rhan 1 o
Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007.
(2) Nid yw ystadegau swyddogol yn y Gorchymyn hwn yn cynnwys ystadegau sydd â’r ystyr a roddir yn adran 6(1)(a) o’r Ddeddf honno.
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
*** 2017
YR ATODLEN Erthygl 3
Awdurdod Cyllid Cymru
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
Comisiynydd Plant Cymru
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Comisiynydd y Gymraeg
Corff Adnoddau Naturiol Cymru
Cyngor Celfyddydau Cymru
Cyngor Chwaraeon Cymru
Cyllid Cymru
Cymwysterau Cymru
Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Gofal Cymdeithasol Cymru
Hybu Cig Cymru
Partneriaeth Cydwasanaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre
Y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys
Trafnidiaeth Cymru
Uned Ddata Cymru
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru